Ian Blackford sydd wedi’i enwi yn arweinydd newydd grwp Aelodau Seneddol yr SNP yn San Steffan.

Mae aelod etholedig Ross, Skye a Lochaber yn olynu Angus Robertson, a gollodd sedd Moray yn etholiad cyffredinol brys Mehefin 8.

Roedd Ian Blackford yn erbyn Joanna Cherry a Drew Hendry yn y ras i fod yn arweinydd yr SNP yn y Senedd, wedi i ymgeisydd arall, Tommy Sheppard, dynnu ei enw’n ôl.

“Mae’n anrhydedd i mi gael fy ethol i arwain tim cryf a thalentog yr SNP yn ystod cyfnod mor allweddol yn San Steffan,” meddai Ian Blackford.

“Fel prif blaid yr Alban yn San Steffan, a thrydedd plaid fwyaf y Deyrnas Unedig. mae gan yr SNP gyfle mawr yn ystod y tymor nesaf hwn i sefyll i fyny tros fuddiannau pobol yr Alban.

“Mae’r senedd grog yn golygu y bydd gan Aelodau Seneddol yr SNP fwy o ddylanwad nag erioed o’r blaen yn ystod trafodaethau Brexit… dydi hi erioed wedi bod mor bwysig i ni wneud yn siwr fod llais yr Alban yn cael ei glywed.”