Arlene Foster, arweinydd y DUP (Llun o'i gwefan)
Mae adroddiadau’n awgrymu y gallai cyhoeddiad ynglyn â’r ddêl rhwng y Ceidwadwyr a’r DUP gael ei ohirio oherwydd y tân angheuol yn nhwr fflatiau Grenfell yn Llundain.

Bydd trafodaethau rhwng y ddwy blaid yn parhau heddiw wrth i’r Prif Weinidog, Theresa May, geisio ennill cefnogaeth 10 aelod seneddol y DUP er mwyn sicrhau mwyafrif digonol yn San Steffan.

Ond mae’r BBC yn adrodd iddyn nhw glywed gan ffynonellau o’r DUP mai’r teimlad ydi y byddai hi’n “amhriodol” gwneud cyhoeddiad yn sgil y tân sydd wedi lladd beth bynnag chwech o bobol.

Mae gweinidogion eisoes wedi awgrymu bydd araith y Frenhines yn cael ei gohirio oherwydd y trafodaethau, ac mae’n ymddangos nawr na fydd dêl yn cael ei chyhoeddi tan yr wythnos nesaf.

Her Brexit

Her arall sydd yn wynebu Theresa May yw’r broses o adael yr Unedb Ewropeaidd ac mae disgwyl i’r trafodaethau Brexit ddechrau ym Mrwsel ddydd Llun nesaf, Mehefin 19.

Mae’r cyn-Brif Weinidog, David Cameron, wedi galw ar Theresa May i addasu ei chynlluniau Brexit gan ddweud, “Dw i’n meddwl bydd pwysau yn awr am Frexit fwy meddal.”