Y Prif Weinidog Theresa May wedi'r trafodaethau gyda'r DUP (Llun: Dominic Lipinski/PA Wire)
Mae llefarydd ar ran Downing Street wedi disgrifio’r trafodaethau rhwng Theresa May ac arweinydd y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd (DUP) heddiw fel rhai “adeiladol.”

Roedd y trafodaethau wedi parhau ym Mhalas San Steffan, lle bu’r Prif Weinidog yn annerch Tŷ’r Cyffredin.

Ac mae’r trafodaethau yn parhau heb Theresa May pryhawn ma ar ôl iddi adael i deithio i Baris i gwrdd â’r Arlywydd newydd Emmanuel Macron.

“Canlyniad llwyddiannus”

Nid yw Theresa May wedi cyhoeddi beth gafodd ei gytuno rhyngddi hi ac arweinydd y DUP, Arlene Foster, wrth iddi geisio cael cefnogaeth y blaid o Ogledd Iwerddon i gefnogi ei llywodraeth leiafrifol.

Er hyn, mae Arlene Foster wedi dweud ar wefan gymdeithasol Twitter – “Trafodaethau yn mynd yn dda gyda’r llywodraeth ac rydym yn gobeithio yn fuan i allu dod â’r gwaith hwn i ganlyniad llwyddiannus.”

Ychwanegodd mai Brexit, gwrth-frawychiaeth a “gwneud yr hyn sy’n iawn” ar gyfer economi Gogledd Iwerddon yw’r prif faterion dan sylw.

Daw’r trafodaethau ar ôl i’r Llywodraeth gyfaddef ddoe y gallai Araith y Frenhines ar 19 Mehefin gael ei gohirio nes bod cytundeb rhwng y DUP a’r Ceidwadwyr.

“Pryderus”

Mae Syr John Major wedi dweud ei fod yn “bryderus” ynglŷn â’r effaith y gallai cytundeb rhwng y DUP a’r Ceidwadwyr ei gael ar y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon.

Dywedodd y cyn-Brif Weinidog, a oedd wedi chwarae rhan allweddol i ddod a’r trafferthion yng Ngogledd Iwerddon i ben, bod  y broses heddwch yn dal i fod yn “fregus” ac y gallai cytundeb olygu na fyddai’r Llywodraeth yn cael ei hystyried yn ddiduedd.

Fe rybuddiodd y gallai rhai cymunedau benderfynu eu bod eisiau “dychwelyd i ryw fath o drais” a bod yn rhaid sicrhau nad yw hynny’n digwydd.