Arlene Foster, arweinydd y DUP Llun: PA
Fe fydd Theresa May ac arweinydd y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd (DUP), Arlene Foster, yn cynnal trafodaethau tyngedfennol heddiw i geisio dod i gytundeb er mwyn sicrhau mwyafrif i’r Ceidwadwyr yn y Senedd.

Daw’r trafodaethau ar ôl i’r Llywodraeth gyfaddef ddoe y gallai Araith y Frenhines ar 19 Mehefin gael ei gohirio nes bod cytundeb rhwng y DUP a’r Ceidwadwyr.

Araith y Frenhines sydd yn amlinellu cynlluniau deddfwriaethol y Llywodraeth am y flwyddyn sydd i ddod.

Fe fydd Theresa May yn awyddus iawn i ddod i gytundeb er mwyn sicrhau bod agenda’r llywodraeth yn mynd drwy’r Senedd ar ôl i’r Ceidwadwyr fethu a sicrhau mwyafrif clir.

Fe fu’r Prif Weinidog yn cwrdd ag Aelodau Seneddol Ceidwadol bnawn ddoe gan ddweud wrthyn nhw: “Fi yw’r person sydd wedi ein cael ni yn y llanast yma, a fi fydd yr un fydd yn ein harwain ni allan o’r llanast.”

Dywedodd wrth aelodau meinciau cefn Pwyllgor 1922 ddydd Llun na fyddai cytundeb gyda’r DUP yn effeithio’r trafodaethau i ffurfio llywodraeth yng Ngogledd Iwerddon na hawliau LGBT.

Er bod Arlene Foster yn cefnogi Brexit fe allai geisio sicrhad gan Theresa May na fydd yn gwthio am Brexit caled o ystyried bod 56% o bobl yng Ngogledd Iwerddon wedi pleidleisio o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Yn bris am eu cefnogaeth, mae disgwyl iddi hefyd alw am ragor o fuddsoddiad yng Ngogledd Iwerddon.