Stormont Llun: PA
Mae trafodaethau i ffurfio Llywodraeth yng Ngogledd Iwerddon wedi ail ddechrau ar ôl cael eu gohirio dros gyfnod yr etholiad cyffredinol.

Mae’r wlad wedi bod heb Brif Weinidog ers mis Ionawr ac yn sgil canlyniadau’r etholiad cyffredinol mae’r sefyllfa yn Stormont wedi cymhlethu ymhellach.

Gyda chlymblaid DUP-Ceidwadwyr ar y gorwel yn San Steffan, mae gwrthbleidiau Gogledd Iwerddon wedi mynnu nad oes modd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn ddiduedd a bod angen cadeirydd annibynnol ar gyfer trafodaethau Stormont.

Ar hyn o bryd mae disgwyl i Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, James Brokenshire,  gadeirio’r trafodaethau ond mae Sinn Fein, yr SDLP a phlaid Alliance eisoes wedi ei wrthod.

Cyn y trafodaethau prynhawn ma, dywedodd Llywydd Sinn Fein, Gerry Adams,  nad oedd James Brokenshire yn “gadeirydd derbyniol.”

“Y drefn briodol”

Mae’n ymddangos bod James Brokenshire wedi gwrthod y syniad o gyflwyno cadeirydd annibynnol ac wedi cyfeirio at y drefn bresennol fel y “drefn briodol.”

Ers mis Mawrth mae sawl ymgais i ffurfio Llywodraeth wedi methu ac mewn ymateb i’r sefyllfa mae Arweinydd y DUP Arlene Foster wedi rhybuddio “bod y cyfnod o ofynion afrealistig wedi dod i ben.”