David Davis, Ysgrifennydd Brexit (Llun: Steve Punter CCA2.0)
Mae trafod dyfodol arweinyddiaeth Theresa May yn “wastraff amser” yn ôl Ysgrifennydd Brexit Llywodraeth Prydain.
Mae David Davis wedi datgan ei gefnogaeth i’r Prif Weinidog gan ddweud y dylai’r sylw symud yn awr at y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Daw ei sylwadau wrth i’r Prif Weinidog gwrdd ag Aelodau Seneddol Ceidwadol heddiw lle mae disgwyl iddi wynebu heriau o ran ei harweinyddiaeth ac i ddatgelu ei thrafodaethau â’r DUP yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol ddydd Iau.
“Mae gwahaniaeth mawr rhwng rhedeg ymgyrch a rhedeg y wlad. Mae rhedeg y wlad yn fwy anodd ac mae’n hynod o dda am wneud hynna,” meddai David Davis gan gyfeirio at Theresa May.
Ac o ran y galwadau iddi gamu o’r neilltu dywedodd – “mae’n wastraff llwyr o amser pobol.”
‘Agos at y Farchnad Sengl’
Wrth drafod Brexit, dywedodd fod Llywodraeth Prydain yn ceisio cytundeb masnach rydd “mor agos â phosib i’r farchnad sengl” – ond dywedodd na fyddai parhau yn y farchnad sengl yn bosib oherwydd eu hymgais i reoli ffiniau.
“Rydym wedi’i wneud yn eglur beth ry’n ni am wneud, tu allan i’r farchnad sengl ond gyda mynediad ato.”
Dywedodd hefyd fod sicrhau hawliau dinasyddion i aros yn y Deyrnas Unedig, ynghyd â phobol o Brydain yn Ewrop yn un o’u prif flaenoriaethau.
Fe awgrymodd hefyd na fydd trafodaethau Brexit yn dechrau ar 19 Mehefin yn ôl y disgwyl ond dywedodd y byddan nhw’n dechrau’r wythnos honno.
Mae’n debyg bod y trafodaethau yn cyd-daro ag araith y Frenhines yn San Steffan ddydd Llun nesaf.