Arlywydd r Unol Daleithau, Donald Trump (Llun: AP/David Goldman)
Dydy Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump ddim eisiau dod i wledydd Prydain os yw ei ymweliad yn mynd i arwain at brotestiadau, yn ôl adroddiadau.

Yn ôl y Guardian, mae e am sicrhau bod ganddo fe sêl bendith y cyhoedd cyn teithio.

Mae lle i gredu bellach y bydd ei daith yn cael ei gohirio am y tro.

Yn ôl y papur newydd, roedd Theresa May “wedi synnu” o glywed nad oedd e am ddod i wledydd Prydain.

Mae llefarydd ar ran Theresa May wedi gwrthod gwneud sylw, ond mae lle i gredu bod croeso iddo fe o hyd, yn ôl y gwahoddiad gwreiddiol gan y Frenhines.

Beirniadaeth

Cafodd y cynlluniau ar gyfer y daith eu beirniadu, gyda rhai yn dweud ei bod yn rhy gynnar i wahodd yr Arlywydd newydd am ymweliad gwladol.

Ac fe gafodd Donald Trump ei hun ei feirniadu am ladd ar Faer Llundain, Sadiq Khan yn sgil ei ymateb i’r ymosodiadau brawychol diweddar.

Pan ddywedodd Sadiq Khan nad oedd rheswm i boeni am ragor o ymosodiadau, fe gafodd ei gyhuddo gan Donald Trump o wneud “esgusodion pathetig”.