(Llun: gwefan yr SNP)
Mae Gweinidog Brexit yr Alban wedi galw am gyfarfod brys i drafod cynlluniau newydd ar gyfer Brexit.

Yn ôl Mike Russell, dydy’r cynlluniau presennol ddim yn addas ar gyfer eu pwrpas yn dilyn etholiad cyffredinol siomedig i’r Ceidwadwyr a Theresa May, ar ôl iddyn nhw golli eu mwyafrif yn San Steffan.

Mynnodd e fod dymuniad yr Alban i aros yn y farchnad sengl yn bosibilrwydd o hyd, a bod hynny’n fan cychwyn da ar gyfer trafodaethau newydd yr wythnos hon.

Ail refferendwm annibyniaeth?

Ategodd Mike Russell neges Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon fod ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban yn bosiblrwydd o hyd, er i ganlyniadau’r etholiad awgrymu bod llai o bobol o blaid annibyniaeth erbyn hyn.

Collodd yr SNP 21 o seddi yn yr etholiad cyffredinol, gyda nifer o arbenigwyr yn dweud mai polisi’r SNP o geisio annibyniaeth oedd wedi arwain at hynny.

Dywedodd wrth raglen Sunday Politics y BBC yn yr Alban: “Mae’n bwysig eithriadol fod polisi Brexit cyfan Theresa May yn cael ei ddiddymu a’u bod nhw’n dechrau eto.

“Rhaid i fi ddweud mai rhan gyntaf hynny yw perswadio Theresa May nad yw dal ymlaen i Stryd Downing yn syniad synhwyrol.

“Mae hi wedi llywyddu tros anhrefn dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae canlyniad yr etholiad hwn yn dangos nad yw pobol yn ymddiried ynddi. Dw i ddim yn credu ei bod hi mewn sefyllfa i barhau.”

Dywedodd fod hynny’n golygu edrych eto ar bolisi Brexit.

Cynllun yr Alban

Mae’r cynllun Scotland’s Place in Europe yn amlinellu bwriad Llywodraeth yr Alban i aros yn y farchnad sengl ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae Ysgrifennydd Brexit San Steffan, David Davis wedi wfftio’r ddogfen.

Dywedodd Mike Russell fod “datrysiadau pwysig” yn y ddogfen, a bod yr SNP yn bwriadu parhau i’w hyrwyddo fel ffordd ymlaen i’r Alban.