Theresa May (Llun o'i chyfri Twitter)
Fe fydd Prif Weinidog Prydain, Theresa May ac arweinydd y DUP, Arlene Foster yn cyfarfodd ddydd Mawrth i gau pen y mwdwl ar gytundeb i ffurfio llywodraeth newydd.

Mae Theresa May a’r Ceidwadwyr yn ddibynnol ar gefnogaeth y blaid Wyddelig bellach ar ôl gorffen yr etholiad cyffredinol wyth aelod seneddol yn brin o sicrhau mwyafrif.

Mae lle i gredu bod trafodaethau cychwynnol dros y penwythnos wedi “datblygu’n dda”.

Dywedodd Arlene Foster wrth Sky News ei bod hi am gynnig “sefydlogrwydd” i wledydd Prydain.

Dywedodd Stryd Downing ddydd Sadwrn fod amlinelliad o gytundeb wedi cael ei gytuno, ond daeth cadarnhad yn ddiweddarach nad oedd e wedi cael ei gadarnhau’n derfynol.

Gwrthwynebiad

Ond mae unrhyw gytundeb yn debygol o gael ei wrthwynebu gan arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn sy’n dal i fynnu ei fod e mewn sefyllfa i ffurfio llywodraeth.

Ac mae lle i gredu bod yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson yn barod i gamu i rôl y Prif Weinidog, er ei fod e wedi gwadu’r honiadau.

Y cytundeb

Yn ôl adroddiadau, mae disgwyl i’r DUP gefnogi’r llywodraeth ar faterion Brexit a’r Gyllideb, ond fe allai materion eraill gael eu penderfynu fesul un.

Mae disgwyl i Theresa May gadarnhau ei llywodraeth erbyn Mehefin 19 er mwyn cael dechrau ar y cyfnod seneddol nesaf.