Nicola Sturgeon (Llun: Andrew Cowan/PA Wire)
Mae’r SNP wedi galw o’r newydd am aros yn rhan o’r farchnad sengl ar ôl i’r broses Brexit gael ei chwblhau.

Daw’r alwad ar ôl etholiad cyffredinol siomedig i Brif Weinidog Prydain, Theresa May a’r Ceidwadwyr, wrth iddyn nhw golli eu mwyafrif.

Maen nhw bellach wyth sedd yn brin o fwyafrif, ac yn ystyried cydweithio â’r DUP er mwyn creu mwy o sefydlogrwydd iddyn nhw eu hunain wrth gyflwyno polisïau.

Ail-feddwl

Mae’r ffaith fod y Ceidwadwyr wedi colli eu mwyafrif yn debygol o wneud pethau’n fwy anodd i Theresa May wrth iddi geisio sicrhau cytundeb cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ac mae llefarydd yr SNP ar Ewrop yn San Steffan, Stephen Gethins wedi dweud bod rhaid iddi ail-feddwl am ei chynlluniau yn dilyn yr etholiad cyffredinol.

“Roedd canlyniad yr etholiad yn wrthwynebiad ysgubol i gynlluniau’r Torïaid ar gyfer Brexit eithafol – a rhaid i aelodaeth o’r farchnad sengl fod yn ôl ar y bwrdd nawr.

“Allai Theresa May ddim bod wedi bod yn fwy clir. Galwodd hi’r etholiad hwn er mwyn sicrhau mandad ar gyfer y trafodaethau, ac mi gafodd ei gwrthod gan yr etholwyr.”

Nicola Sturgeon

Mae ei sylwadau’n ategu’r hyn a ddywedodd arweinydd yr SNP a Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon yn dilyn yr etholiad ddydd Iau.

Galwodd hi ar i aelodau seneddol “ddod ynghyd i gadw’r DU a’r Alban yn y farchnad sengl Ewropeaidd”.