Cyn-arweinydd UKIP, Paul Nuttall (Llun: golwg360)
Mae arweinydd dros dro UKIP, Steve Crowther wedi rhybuddio Prif Weinidog Prydain, Theresa May y byddai’n “hollol annerbyniol” i feddalu ynghylch ei safbwyntiau am Brexit caled.

Collodd y Ceidwadwyr eu mwyafrif yn dilyn yr etholiad cyffredinol brys ddydd Iau, ac fe ymddiswyddodd Paul Nuttall o’i rôl fel arweinydd UKIP ar ôl methu ag ennill sedd yn Skegness yn Swydd Lincoln.

Mae’r blaid bellach yn nwylo Steve Crowther am y tro, ac mae e’n dweud bod rhaid i’r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer Brexit fynd yn eu blaen er gwaetha’r siom.

Bwriad y Ceidwadwyr ar hyn o bryd yw ffurfio llywodraeth gyda chymorth plaid Wyddelig y DUP, sydd â 10 Aelod Seneddol – mae’r Ceidwadwyr wyth sedd yn brin o fwyafrif.

‘Analluog’

Dywedodd Steve Crowther: “Er ei bod hi wedi cael ei niweidio’n bersonol, mae’r awgrym fod perfformiad diflas Mrs May yn yr etholiad yn gwaredu angen y Llywodraeth i sicrhau Brexit llawn yn hollol annerbyniol.

“Pleidleisiodd y bobol y llynedd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, atalnod llawn. Dydy anallu Mrs May i ymgyrchu mewn etholiad ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth i hynny.

“Os yw’r Llywodraeth Geidwadol-DUP yn credu y gall wneud tro pedol yn hyn o beth, bydd yn darganfod yn gyflym fod hynny’n gamgymeriad.”

Pryderon am y DUP

Rhybuddiodd Steve Crowther y gallai pryderon y DUP am ffiniau olygu na fydd ffiniau Prydain yn cael eu cau’n llawn.

“Mae’r darpariaethau Ardal Deithio Gyffredin a fu mewn grym ers y 1920au yn sail cwbl ddigonol i ddatrys yr anghysondeb hwnnw.

“Mae pobol yn y wlad hon am reoli eu ffiniau a rhoi terfyn ar y polisi trychinebus o fewnfudo drws agored sydd wedi arwain at gynnydd cyflym yn y boblogaeth, argyfwng ariannol ym meysydd iechyd ac addysg, pwysau ar dai a chyflogau, ac ynysu cymdeithasol peryglus.”