Mae undebau wedi canmol llwyddiant y Blaid Lafur ac yn dweud bod angen cyflwyno polisïau i wella tâl a hawliau gweithwyr.

Canmol Arweinydd y Blaid Lafur mae Ysgrifennydd Cyffredinol Unsain, Dave Prentis, gan nodi bod “Jeremy Corbyn wedi ysbrydoli miliynau i bleidleisio am y tro cyntaf ac wedi gwella ffortiwn ei blaid.”

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur (TUC), Frances O’Grady, am weld y llywodraeth nesaf yn cyflwyno “dêl newydd” fydd yn gwahardd cytundebau dim oriau ac yn cynyddu’r isafswm cyflog.

Hefyd mae’n nodi bod hi’n “hen bryd” am godiad cyflog i nyrsys a gweithwyr sector gyhoeddus, ac mae’n mynnu y dylai’r llywodraeth osgoi “Brexit heb ddêl.”

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol undeb y GMB, Tim Roache, wedi cyfeirio at y Blaid Lafur fel “gwrthblaid gredadwy, nerthol ac unedig” fydd yn dadlau yn erbyn “cynghrair afreolus” y Ceidwadwyr.

“Rhaid dod â chynildeb cyllidol i ben” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Unite, Len McCluskey. “Dydy pobol ddim eisiau’r un hen drefn.”