Paul Nuttall
Mae Paul Nuttall wedi ymddiswyddo fel arweinydd UKIP yn dilyn canlyniadau siomedig i’r blaid yn ystod y nos.

Roedd y blaid Brexit wedi gobeithio ennill tir yn yr etholiad, gyda Paul Nuttall yn arwain ymgyrch i wneud yn siŵr na fydd Brexit yn cael ei “esgeuluso”.

Ond wedi i UKIP fethu ag ennill yr un sedd yn San Steffan – a gyda Paul Nuttall ei hun yn dod yn drydydd gwael yn sedd Boston a Skegness – mae wedi dewis gadael ei swydd, gan ddweud bod “rhaid i gyfnod newydd ddechrau gydag arweinydd newydd”.

“Mae’n glir bod UKIP angen ffocws newydd, syniadau newydd ac egni newydd – ac mae e yno ymhlith rhengoedd y blaid”, meddai.

Ychwanegodd fod UKIP yn parhau i fod “yr un mor berthnasol ag erioed” ac y byddai’n cadw i chwarae rhan bwysig yn y misoedd i ddod yn diogelu Brexit.

“Dw i’n meddwl fy mod i, er gwaethaf y canlyniadau neithiwr, wedi arwain y ffordd i’r dyfodol yn yr etholiad hwn, ond cyfrifoldeb rhywun arall fydd i adeiladu ar hynny.”

Gwelodd UKIP ddirywiad syfrdanol yn ei phleidlais ledled y wlad, gyda chyfran pleidleisiau’r blaid yn syrthio 2% yn genedlaethol wrth iddi gael ei gwasgu gan Lafur a’r Ceidwadwyr.