Jeremy Corbyn - ymgyrchu go iawn (Rwedland CCA4.0)
Mae pob plaid – a ninnau – yn wynebu cwestiynau anodd, ar ôl smonach anferthol Theresa May. Dadansoddiad Dylan Iorwerth o’r canlyniadau ….

Mewn gwahanol ffyrdd, mi allai pob plaid wynebu llanast ar ôl etholiad ddoe.

  • Mae’r Ceidwadwyr mewn trwbwl mawr, mae hynny’n amlwg. Paratowch am gyfnod hyll.
  • Mae gan Lafur hefyd gwestiynau anodd i’w hwynebu ac, yng Nghymru, mae ganddi gyfrifoldeb mawr.
  • Mi fydd rhaid i Blaid Cymru edrych eto ar ei chyfeiriad a’i thactegau.
  • A’r Democratiaid Rhyddfrydol? Beryg ei bod hi’n ta-ta ar ôl mwy na chanrif a hanner o gynrychioli Cymru yn San Steffan.
  • Tân siafins oedd UKIP o’r dechrau. Dim ond un marworyn bach sydd ar ôl, a hynny yn y Bae. Fyddai hi’n ddim syndod gweld rhai, os nad y cyfan, yn mynd yn ôl at y Torïaid.
  • Mi gafodd yr SNP ei gwasgu hefyd a’i chosbi am ganolbwyntio gormod ar refferendwm ac mi fydd rhaid iddi ailfeddwl a chwilio am dir cadarn eto.
  • Mae’r cwestiynau mwya’ er hynny i ni i gyd. Mi fydd oblygiadau o ran Brexit yn ysgytwol ac mi allai’r sgil effeithiau fod yn fawr ar sefyllfa fregus Gogledd Iwerddon.

A dyma nhw fesul un …

Y Ceidwadwyr – cawdel

Mae’n anodd gweld sut y gall Theresa May aros yn Brif Weinidog yn hir iawn a’i hawdurdod wedi ei chwalu. Ar ôl colli hwnnw, does ganddi fawr ar ôl, heblaw esgidiau.

Mi fydd y geiriau ‘Cader Idris’ ar ei charreg fedd.

Tydi’r blaid bellach ddim mewn sefyllfa i wthio am Brexit caled ac mi fydd hynny’n aildanio’r ymladd mewnol.

Yng Nghymru, ar ôl rhai digwyddiadau rhyfedd yn ystod yr ymgyrch, mae’r pwysau’n debyg o dyfu eto hefyd ar yr arweinydd, Andrew R. T. Davies.

Llafur – lle nesa’?

Ar yr olwg gynta’, mi allech chi feddwl bod popeth yn wych, gydag ymgyrch gref yn ennill seddi yn nannedd ymosodiadau personol a gwasg asgell dde ddidrugaredd.

Ond beth am y mwy na 150 o ASau oedd wedi gwrthwynebu’r arweinydd Jeremy Corbyn a’i bolisïau? Sut fyddan nhw’n ymateb wrth iddo fo a’r llefarydd economaidd, John McDonnell, gael trwydded i fynd ymhellach ac i gryfhau’r blaid yn y wlad ar eu traul nhw?

Faint o’r enwau mawr fydd yn fodlon edifarhau a derbyn swyddi mainc flaen? A pha mor gyfrwys fydd Jeremy Corbyn wrth yrru ei agenda yn ei blaen? A fydd y rhyfel yn parhau?

Y dewis arall ydi cydweithio a gweld o ddifri a ydi “gwleidyddiaeth Prydain wedi newid”. Dyna ddylen nhw’i wneud.

Llafur Cymru – lwc a chraffter

Mi lwyddodd Llafur Cymru i fanteisio i ddechrau ar bellter rhyngddyn nhw a’r blaid yn Lloegr ac, wedyn, ar lwyddiant yr arweinydd Prydeinig.

Mae Carwyn Jones wedi dangos sawl tro ei fod yn dactegydd craff ac yn gyfathrebwr ardderchog ond y canlyniad ydi fod y cyfrifoldeb arno fo a’r ASau Llafur Cymreig bellach yn anferth.

Ganddyn nhw y mae’r gallu i ymladd am Frexit da i Gymru – o ran pwerau ac arian – a, gyda senedd grog, mae’r cyfle yno.

Plaid Cymru – cwestiynau

Yn weddol fuan – unwaith y dechreuodd Llafur gryfhau – mi ddaeth hi’n amlwg y byddai’r ‘blaid bach’ yn cael ei gwasgu.

Y gobaith iddi hi oedd ennill cwpwl o seddi, er gwaetha’ cwymp yn y bleidlais. Mi enillon nhw Geredigion a dod yn agos eto ym Môn, ond mae Arfon yn ymylol ac maen nhw wedi colli tir ar draws y Cymoedd.

Mi fydd yna gwestiynau am arweinyddiaeth Leanne Wood ar ôl yr holl sylw y mae’n ei gael ond, yn fwy na hynny, mae’n rhaid i’r Blaid ystyried beth yn union y mae’n ei gynnig yn wahanol i Blaid Lafur Garwynaidd.

Brexit … efallai

Mi fydd y canlyniadau yn codi amheuon am ddyfodol Brexit ei hun. Mae sŵn y chwerthin ym Merlin a Pharis i’w glywed fan hyn.

Roedd hi’n anodd cynt; bellach, mae ganwaith anos. Ac mi fydd rhaid cael cytundeb ‘y wlad’ mewn rhyw ffordd – nid refferendwm ond, yn bendant, trafodaeth lawn a phleidlais go iawn yn Nhŷ’r Cyffredin.

A chymryd y bydd y Ceidwadwyr yn cynnal llywodraeth, mae hynny’n debyg o fod yn bartneriaeth gyda’r DUP yng Ngogledd Iwerddon. Rhwng Brexit a hynny, mae’n gyfnod peryglus iawn yn y dalaith.

A’r canlyniad i gyd?

Mae’r etholiad yma wedi cadarnhau’r diffyg trefn rhyfeddol sydd mewn gwleidyddiaeth ar hyn o bryd.

Mae gwladwriaeth a bleidleisiodd tros Brexit bellach wedi gwanhau gallu ei Llywodraeth i fargeinio – yn fwriadol, efallai, ar ôl cael ofn y Blaid Geidwadol.

Y sôn ydi fod llawer o bobol ifanc wedi pleidleisio – cenhedlaeth fory’n taro’n ôl yn erbyn cenhedlaeth ddoe a heddiw.

Mi fydd rhaid aros ychydig eto i weld a oes yna symudiad go iawn yn erbyn toriadau a threthi isel ac o blaid gwleidyddiaeth wahanol.

Y newyddion da ydi fod ymgyrchu didwyll yn gallu ennill weithiau.