Mae cyn-Gyfarwyddwr yr FBI wedi dweud bod gweinyddiaeth Donald Trump wedi taenu “celwyddau” amdano ef a’r FBI.

Dywedodd James Comey wrth wleidyddion y wlad bod eglurhad y weinyddiaeth tros ei ddiswyddo yn peri pembleth a gofid iddo.

Ni ddywedodd beth yn union yw’r “celwyddau” dan sylw.

Wrth gyflwyno tystiolaeth i un o bwyllgorau’r Senedd, dywedodd James Comey bod Donald Trump wedi dweud wrtho droeon ei fod yn gwneud gwaith gwych.

Dyma sylwadau cyntaf y cyn-Gyfarwyddwr ers iddo gael ei hel o’r FBI ar Fai 9. Ar y pryd roedd yn arwain ymchwiliad yr FBI i gydweithio posib rhwng Rwsia ac ymgyrch Donald Trump i fod yn Arlywydd America.