Diane Abbott
Mae Jeremy Corbyn wedi cyhoeddi y bydd Lyn Brown yn cymryd lle Diane Abbott yn swydd Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, dros gyfnod o salwch.

Fe dynnodd Diane Abbott allan o ddau ddigwyddiad mawr ddydd Mawrth, a hithau wedi cael ei beirniadu’n llym am fod yn ddolen wan yng nghadwen Llafur.

Ond fe ddaeth cyhoeddiad heddiw gan arweinydd Llafur bod Diane Abbott wedi bod yn anhwylus “ers rhai dyddiau” a’i bod yn cymryd hoe o’r ymgyrchu.

“Mae Diane yn rhywun sy’n gweithio’n hynod o galed,” meddai Jeremy Corbyn, “ac mae hi hefyd yn cynrychioli ei chymuned yn ffyddlon. Mae hi wedi cael ei beirniadu yn hollol annheg yn ddiweddar… a thros y blynyddoedd, petai’n dod i hynny.”