Swyddogion arfog Llun: PA
Mae Arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi galw ar Theresa May i ymddiswyddo oherwydd y toriadau i’r heddlu wrth i’r ymosodiad brawychol yn London Bridge nos Sadwrn hawlio sylw’r ymgyrch etholiadol.

Yn sgil tri ymosodiad brawychol mewn tri mis, mae Jeremy Corbyn wedi herio’r Prif Weinidog dros doriadau sydd wedi arwain at gwymp o 20,000 yn nifer y plismyn ers 2010.

Dywedodd mai’r etholiad cyffredinol ddydd Iau fyddai’r “cyfle gorau” i’w disodli o’i swydd a phan ofynodd ITV News a fyddai’n cefnogi galwad iddi ymddiswyddo dywedodd: “Yn sicr mi fyddwn.”

Yn ôl Jeremy Corbyn, byddai Llywodraeth Lafur Prydeinig yn cynyddu niferoedd plismyn o 10,000 “yn syth.”

 “Adnoddau digonol”

Mae Theresa May wedi amddiffyn y toriadau i niferoedd plismyn, gan fynnu bod yr Heddlu Metropolitan ag “adnoddau digonol” a bod ganddyn nhw’r gallu i wrthwynebu brawychiaeth.

Yn dilyn cyfarfod brys pwyllgor diogelwch Cobra, dywedodd: “Rydym wedi darparu cronfa ar gyfer cynnydd mewn niferoedd swyddogion arfog ac ers 2015 wedi amddiffyn cyllidebau heddlu ar y cyfan.

“A hynny er gwaethaf y ffaith bod Plaid Lafur Jeremy Corbyn yn Nhŷ’r Cyffredin wedi awgrymu bod angen cwtogi cronfeydd yr heddlu.”