Llun: PA
Mae pôl piniwn a wnaed ar gyfer papur newydd The Guardian yn awgrymu fod y Ceidwadwyr 11 pwynt ar y blaen o Lafur yn yr wythnos olaf cyn yr Etholiad Cyffredinol.

Rhwng 2 – 4 Mehefin, fe gymrodd 2,000 o oedolion o bob rhan o wledydd Prydain ran mewn pôl piniwn gan ICM Unlimited.

Roedd canlyniadau’r arolwg yn awgrymu 45% i’r Ceidwadwyr, 34% i Lafur, 8% i’r Democratiaid Rhyddfrydol a 5% i UKIP.

Er hyn, mae pôl piniwn arall a wnaed gan YouGov yn awgrymu y gallai fod Senedd Grog wedi’r etholiad, wrth i’r un blaid lwyddo i ennill mwyafrif.

Fe wnaeth y pôl piniwn hwnnw holi 8,095 o bobol ar Fehefin 4 fel rhan o 53,609 o gyfweliadau yn y saith diwrnod cynt gan roi’r Ceidwadwyr ar 42% sydd bedwar pwynt ar y blaen i Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 9% ac UKIP ar 3%.

Ac mae pôl o bolau piniwn eraill gan y Press Association sy’n rhoi cyfartaledd saith diwrnod o bolau piniwn yn rhoi’r Ceidwadwyr ar y blaen gyda 44%, Llafur ar 37%, Democratiaid Rhyddfrydol ar 8%, UKIP ar 4% a’r Gwyrddion ar 2%.