Theresa May (Llun: Jonathan Brady/PA Wire)
Mae dryswch ynghylch cynlluniau treth y Torïaid ar ôl i Theresa May fethu â chadarnhau addewid gweinidog blaenllaw na fyddai cynnydd yn nhreth incwm pobl ar enillion uchel.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Syr Michael Fallon y byddai pleidleisio i’r Ceidwadwyr ddydd Iau yn sicrhau na fyddai treth incwm yn codi.

Mae ei sylwadau’n mynd ymhellach na maniffesto’r blaid, sy’n ymrwymo i gadw trethi’n ‘isel’.

Wrth ymateb i’w sylwadau, dywedodd Theresa May:

“Nid yw ein safbwynt ar dreth wedi newid. Mae wedi ei nodi yn ein maniffesto.

“Mae’r Blaid Geidwadol bob amser wedi bod yn blaid trethi isel ac fe fydd yn parhau i fod felly bob amser.

“Ein bwriad cadarn yw lleihau trethi i deuluoedd cyffredin sy’n gweithio.”

‘Anhrefn’

Dywedodd Jeremy Corbyn fod y croes-ddweud yn dangos fod arweinwyr y Torïaid ar chwâl.

“Dw i’n meddwl bod anhrefn llwyr ar frig y llywodraeth,” meddai.

Dywedodd y cyn-ysgrifennydd busnes, y Democrat Rhyddfrydol Syr Vince Cable y byddai’n rhaid i’r llywodraeth godi arian o rywle ar gyfer eu cynlluniau.

“Mae sylwadau Michael Fallon yn codi’r cwestiwn amlwg o ble bydd y Ceidwadwyr yn codi’r arian y bydd ei angen ar gyfer ysgolion, y gwasanaeth iechyd, yr heddlu ac amddiffyn,” meddai.

“Gan eu bod nhw’n diystyru’r syniad o gynnydd mewn treth incwm, treth gorfforaethol neu dreth ar werth, rhaid tybio y bydd cynnydd mewn yswiriant gwladol ac mewn amrywiol ‘drethi llechwraidd’ eraill. Maen nhw’n sicr yn codi amheuon.”