Jeremy Corbyn
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi cadarnhau y bydd e’n cymryd rhan yn y ddadl deledu fyw er bod Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi gwrthod.

Fe fydd Tim Farron (Democratiaid Rhyddfrydol), Paul Nuttall (UKIP), Caroline Lucas (Y Blaid Werdd), Leanne Wood (Plaid Cymru) ac Angus Robertson (SNP) yn cymryd rhan yn y ddadl yng Nghaergrawnt ar y BBC.

Er na fydd Theresa May yn bresennol, bydd y Ceidwadwyr yn cael eu cynrychioli gan yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd.

Herio Theresa May

Mae Jeremy Corbyn wedi herio Theresa May i gymryd rhan yn y ddadl, gan ddweud ei bod yn “rhyfedd iawn” fod y Prif Weinidog yn gwrthod cymryd rhan pan fo siarad â phobol yn rhan bwysig o’r gwaith ymgyrchu.

“Mae yna ddadl yng Nghaergrawnt heno. Dw i ddim yn gwybod beth mae hi’n ei wneud heno, ond dydy hi ddim yn bell o Lundain.

Galwodd arni i “ddadlau am ei pholisïau, dadlau am eu record nhw, dadlau am eu cynlluniau, dadlau am eu cynigion a gadael i’r cyhoedd benderfynu”.

Roedd Theresa May eisoes wedi gwrthod cymryd rhan mewn dadl ben-ben â Jeremy Corbyn cyn cadarnhau na fyddai hi’n cymryd rhan mewn dadl gyda’r arweinwyr eraill.

Mae Jeremy Corbyn wedi cyhuddo Theresa May o “guddio”, gan ddweud bod ei phenderfyniad yn “warthus”.

Dywedodd fod ganddo fe “nifer o gwestiynau” i’r Prif Weinidog.

Ymateb y pleidiau eraill

Mae arweinydd y Blaid Werdd, Caroline Lucas wedi cyhuddo Theresa May o “lwfrdra” ac o “osgoi cael ei chraffu”.

Dywedodd dirprwy arweinydd yr SNP, Angus Robertson fod yr ymgyrch etholiadol wedi dangos bod Theresa May yn arweinydd “gwan a sigledig”.

Ond dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr fod Theresa May yn “siarad â phleidleiswyr am y materion sy’n cyfri” yn hytrach na “rhannu clipiau sain” mewn dadl rhwng yr arweinwyr.

Dadleuon teledu

Bydd y ddadl deledu ddiweddara’n dechrau ar BBC1 am 7.30 heno ac yn para 90 munud.

Eisoes, mae Sky News a Channel 4 wedi darlledu rhaglen oedd yn cynnwys cyfweliadau gan Jeremy Paxman gyda Theresa May a Jeremy Corbyn.

Fe fu dadleuon teledu’n rhan bwysig o’r ymgyrch etholiadol ers 2010, pan gymerodd David Cameron, Nick Clegg a Gordon Brown ran mewn tair dadl cyn yr etholiad cyffredinol.

Yn ystod ymgyrch etholiadol 2015, roedd yna ddadl rhwng David Cameron ac Ed Miliband, dadl arall rhwng y saith arweinydd a thrydedd dadl rhwng pump o arweinwyr yn absenoldeb David Cameron a Nick Clegg.