Vladimir Putin
Mae arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wedi cyrraedd Ffrainc er mwyn cynnal trafodaethau gydag arlywydd newydd y wlad honno, Emmanuel Macron.

Ac mae Mr Putin wedi cael croeso cynnes, wrth i Mr Macron ysgwyd ei law yn gadarn ar garped coch ym Mhalas Versailles heddiw.

Mae disgwyl i’r daith hon ddiffinio’r math o berthynas fydd yna rhwng Ffrainc a Rwsia am y blynyddoedd nesaf.

Fe fydd Vladimir Putin yn awyddus i fendio ei berthynas gyda’r Gorllewin, wedi i Rwsia gefnogi gwrthwynebydd asgell dde Emmanuel Macron, Marine Le Pen, yn yr etholiad arlywyddol fis diwethaf.