Jacob Zuma
Mae prif blaid wleidyddol De Affrica yn trafod dyfodol yr arlywydd, Jacob Zuma, gyda honiadau o dwyll ar haenau ucha’r llywodraeth.

Mae Jacob Zuma yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder, wrth i gyfarfod o arweinwyr plaid yr ANC ddigwydd ddydd Sul. Y blaid honno sydd wedi rheoli’r wlad byth ers 1994.

Mae nifer o fewn yr ANC yn rhoi’r bai am berfformiad gwael y blaid yn etholiadau lleol y llyneddm ar yr arlywydd. Ac maen nhw’n poeni eto am eu poblogrwydd wrth wynebu etholiadau cenedlaethol yn 2019.

Roedd Jacob Zuma dan bwysau tebyg o golli ei swydd ym mis Tachwedd y llynedd, ond fe lwyddodd i ddal ei dir.