Paul Nuttall
Fe fyddai arweinydd UKIP, Paul Nuttall, yn hollol fodlon gweld y rheiny sy’n lladd plant, llofruddwyr milwyr Prydain, neu frawychwyr, yn derbyn y gosb eithaf.

Ac fe fyddai’r ASE “yn hapus” i ofyn barn pobol gwledydd Prydain mewn refferendwm ar y mater, pe bai UKIP yn cael ei hethol yn etholiad cyffredinol Mehefin 8.

“Mi faswn i’n hoffi gweld y gosb eithaf yn cael ei dyfarnu i frawychwyr a llofruddwyr plant,” meddai mewn cyfweliad i bapur newydd The Mail On Sunday, cyn ychwanegu y byddai ef ei hun yn fodlon bod yr un i bwyso’r botwm i’w lladd.

“Ar gyfer pobol sy’n lladd milwyr Prydain (fel Lee Rigby) neu’n niweidio plant (fel Ian Brady a Myra Hindley), yna fyddai gen i ddim problem,” meddai.

“Dw i’n credu yn y gosb eithaf ar gyfer teyrnfradwriaeth hefyd,” meddai. “Mae polau piniwn yn dangos fod mwyafrif o bobol yn cytuno efo fi.”

Ond, ychwanegodd Paul Nuttall nad yw’r gosb eithaf yn bolisi swyddogol UKIP.