Theresa May - "Digon yw digon"
Fe fyddai sefydlu Comisiwn newydd i fynd i’r afael ag eithafiaeth, sy’n cael ei argymell gan y Ceidwadwyr, yn cael yr hawl i gyfyngu ar “arferion diwylliannol annerbyniol” ymysg carfanau o leiafrifoedd yng ngwledydd Prydain.

Fe fyddai hefyd yn gwneud yn siwr fod hawliau menywod yn cael eu parchu ym mhob carfan ethnig a chrefyddol.

Y bwriad, meddai Theresa May, yw y byddai’r Comisiwn yn cynghori ac yn rhybuddio’r Llywodraeth yn San Steffan ynglyn a pholisiau i fynd i’r afael ag eithafiaeth. Fe fyddai’r Comisiwn hefyd yn hybu “gwerthoedd amrywiol” wledydd Prydain.

Fe fyddai llywodraeth Geidwadol – o gael ei hethol yn etholiad cyffredinol Mehefin 8 – yn rhoi grymoedd a dannedd i’r corff statudol trwy roi cyfrifoldeb cyfreithiol iddo i adnabod eithafiaeth ac i gefnogi pobol a sefydliadau i’w wrthwynebu.

Fe fyddai’n cael ei sefydlu ar yr un model a’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol.

“Prydain ydi un o wledydd aml-ethnig, aml-grefydd ac aml-ddiwylliannol y byd,” meddai Theresa May.

“Ond ni ddylai’r ffaith ein bod ni’n gallu mwynhau ein hamrywiaeth ein rhwystro rhag mynd i’r afael ag eithafiaeth – hyd yn oed os ydi hynny’n anodd weithiau.

“Mae eithafiaeth – yn enwedig eithafiaeth Islamaidd – yn amddifadu rhai pobol o’r rhyddid y dylen nhw allu ei fwynhau; mae’n tanseilio ymwneud cymunedau a’i gilyd; ac mae’n gallu bwydo trais.

“Ac fe all hyn fod yn arbennig o wael i fenywod.

“Digon ydi digon,” meddai Theresa May wedyn. “Mae angen i ni fod yn gryfach ac yn gadarnach wrth sefyll i fyny i herio’r bobol hyn.”