Mae arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn mynnu bod angen cydnabod yr Unoliaethwyr a’r Gweriniaethwyr am ddod a heddwch i Ogledd Iwerddon.

Ac yntau’n gwadu iddo drafod gyda’r IRA, mae’n dweud y dylid canolbwyntio yn hytrach ar y ddwy ochr a ddaeth at ei gilydd o gwmpas y bwrdd er mwyn rhoi’r gorau i’r ymladd a’r lladd.

Mae’n cyfaddef iddo gyfarfod cyn-garcharorion a fu’n rhan o’r ymladd yng Ngogledd Iwerddon, ond mae’n dweud nad oedden nhw’n aelodau nac yn gyn-aelodau o’r IRA.

“Dydw i ddim wedi trafod gyda’r IRA,” meddai Jeremy Corbyn ar raglen drafod Peston On Sunday yr ITV heddiw. “Dw i wedi trafod gyda Sinn Fein, a dw i’n dal i gyfarfod aelodau o’r blaid.

“Dw i wedi cyfarfod cyn-garcharorion hefyd, ond maen nhw’n dweud wrtha’ i nad oedden nhw’n aelodau o’r IRA.

“Dw i’n meddwl bod angen bod yn glir wrth drafod y ffaith nad oedd ceisio cael ateb milwrol i sefyllfa Gogledd Iwerddon, yn beth doeth iawn. Mae’n rhaid i ni edrych ar y cyfnod ofnadwy yna yn hanes Gogledd Iwerddon a dysgu gwersi.

“Roedd y ddau gadoediad – ar y ddwy ochr – ac yna Cytundeb Gwener y Groglith, yn fodd o dderbyn y traddodiadau gwahanol sydd gan y cymunedau gweriniaethol ac unoliaethol yn Iwerddon,” meddai Jeremy Corbyn wedyn.

“Mae’n rhywbeth sydd wedi bod yn wers i bawb, ym mhob cwr o’r byd. Wrth gwrs, fe ddylen ni gydnabod y cyfaddawdu sydd wedi digwydd ar y ddwy ochr er mwyn sicrhau heddwch.”