Y cyn-ganghellor George Osborne (llun: Gwifren PA)
Mae Theresa May a Jeremy Corbyn yn dilyn polisi tebyg o gefnu ar ryddfrydiaeth ryngwladol a globaleiddio, yn ôl y cyn-ganghellor George Osborne.

Ac yntau bellach yn olygydd papur newydd y London Evening Standard, mae wedi bod yn gyson feirniadol o bolisïau Theresa May fel prif weinidog.

Dywedodd fod llawer o bobl yn anfodlon gydag agweddau’r ddau arweinydd.

“Dw i’n awyddus i hyrwyddo gwerthoedd sy’n rhyddfrydig yn gymdeithasol ac o blaid busnes a’r farchnad rydd,” meddai.

“Mae’r rhain yn set o werthoedd y mae’r papur wedi eu harddel ers amser maith, a thrwy gyd-ddigwyddiad hapus, dyma hefyd y gwerthoedd ro’n ei’n eu gweithredu fel canghellor.”

Mae’n dweud bod addewid Theresa May i dorri mewnfudo net i lai na 100,000 yn “wleidyddol ffôl ac yn anllythrennog yn economaidd”, ac y bydd yn rhaid iddi esbonio sut mae am wireddu addewid o’r fath.

“Pa adran o ddiwydiant na fydd yn cael y llafur y mae arno’i angen?” gofynnodd. “Pa deuluoedd na fydd yn gallu aduno ag aelodau o’u teuluoedd dramor? Pa brifysgolion na fydd yn cael myfyrwyr tramor?”

Ychwanegodd y bydd y papur yn argymell sut y dylai ei ddarllenwyr bleidleisio ar 8 Mehefin, ond nad yw’n fodlon dweud beth fydd yr argymhelliad hwnnw ar hyn o bryd.