Cabinet Cyngor Bro Morgannwg
Mae un o aelodau cabinet newydd Cyngor Bro Morgannwg wedi amddiffyn y penderfyniad i beidio â chynnwys unrhyw ferched yn y cabinet.

Dywedodd Jonathan Bird, sy’n aelod cabinet dros Adfywio a Chynllunio, fod diffyg profiad yn y cyngor ar ôl i gyfres o gynghorwyr newydd gael eu hethol wedi’r etholiadau ym mis Mai.

“Yn amlwg fe wnaethon ni feddwl yn hir amdano ond y trwbl oedd bod gennym ni gymaint o gynghorwyr newydd, wnaethon ni deimlo nad oedd ganddyn nhw’r profiad,” meddai wrth golwg360.

“Yn hytrach na rhoi dynes yn y cabinet dim ond er mwyn gwneud hynny, roeddwn ni’n teimlo bod angen profiad a dealltwriaeth arnom ni yn ystod yr amseroedd anodd hyn, ar gyfer y flwyddyn gyntaf o leiaf.

“Rydym ni am geisio gwneud y gorau dros y cyngor, dyw e ddim yn benderfyniad yn erbyn menywod nac yn erbyn cydraddoldeb.”

Mae’r cyngor wedi ei feirniadu am beidio â chynnwys dynes yn y Cabinet ac er bod y Maer, Janice Charles yn ddynes, rôl seremonïol sydd ganddi yn bennaf.

Penderfyniad dros dro?

Dywedodd Jonathan Bird y gallai hwn fod yn benderfyniad dros dro, gyda’r Cabinet yn newid ar ôl i gynghorwyr gael mwy o brofiad yn y swydd.

“Hyd y gwelaf i, dydy’r Cabinet ddim yno yn barhaol, mae e sicr ddim yn swydd pum mlynedd, mae pawb yno am eu bod yn haeddu bod yno ac os nad ydyn nhw’n gwneud eu swyddi’n iawn, mae hi i’r arweinydd i adolygu hynny.

“Roedden ni’n teimlo’n anghyfforddus iawn yn rhoi dynes yn y swydd dim ond er mwyn rhoi dynes yno, doedd e ddim yn benderfyniad secsist.

“Mae’n gyfnod anodd [i gynghorau] ac roeddem ni’n teimlo bod angen profiad ac mae llawer o’r bobol newydd sydd wedi dod i mewn erioed wedi bod mewn rôl llywodraeth leol o’r blaen, dydyn nhw ddim yn deall yr anawsterau ariannol a goblygiadau penderfyniadau.

“Felly roeddem ni’n teimlo’n gryf iawn bod angen profiad i ddechrau, gyda phethau fel y mae, doedden ni ddim yn teimlo bod gennym ni opsiwn arall.”