Theresa May i helpu achos annibyniaeth?
Mi fyddai traean o Gymry yn cefnogi annibyniaeth pe bai’r Ceidwadwyr yn cynyddu eu mwyafrif yn San Steffan, yn ôl arolwg barn newydd.

Yn ôl y pôl piniwn YouGov ar ran mudiad YesCymru, sy’n ymgyrchu tros annibyniaeth i Gymru, ar hyn o bryd mae 26% yn ffafrio annibyniaeth tra bod 47% yn erbyn gyda phleidleiswyr Llafur a Phlaid Cymru ymysg y mwyaf cefnogol.

Ond mae’n debyg os fyddai’r Ceidwadwyr yn cynyddu eu mwyafrif yn San Steffan, byddai’r gefnogaeth i  annibyniaeth yn cynyddu o 26% i 32%.

Pobol rhwng 18 a 49 blwydd oed sydd fwyaf cefnogol a chefnogwyr y Ceidwadwyr a UKIP sydd lleiaf ffafriol i’r syniad, yn ôl yr arolwg.

“Ni biau’r ymgyrch hon”

“Mae’r canlyniadau hyn yn wirioneddol wych i’r ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru,” meddai Cadeirydd, Yes Cymru Iestyn ap Rhobert.

“Yn wir, testun calondid o’r mwyaf yw gweld bod cymaint o gefnogaeth drawsbleidiol, a hynny heb i’r un blaid wneud yr achos. Mae’n rhaid i’r pleidiau gwleidyddol adael i bobl Cymru benderfynu ar dynged ein cenedl – ni’r bobol biau’r ymgyrch hon, ac mae hi ar gerdded.”