Jeremy Corbyn yn ennill tir (Garry Knigh CCA 2.0)
Mae Llafur yn closio at y Ceidwadwyr ac wedi cau’r bwlch rhyngddyn nhw i bum pwynt, yn ôl y pôl piniwn cynta’ ers yr ymosodiad ym Manceinion nos Lun.

  • Mae arolwg YouGov dros The Times, a gafodd ei gynnal dydd Mercher a dydd Iau, yn awgrymu bod y Ceidwadwyr i lawr bwynt ers yr wythnos ddiwetha’ ar 43% ac mae Llafur bellach wedi codi tri phwynt i 38%.
  •  Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol  i fyny un ar 10% ac mae UKIP hefyd wedi codi un pwynt i 4%. Doedd yr arolwg ddim yn cynnwys Plaid Cymru a’r SNP.
  •  Mae arolwg arall, a gafodd ei gynnal cyn y gyflafan nos Lun, wedi gosod y Ceidwadwyr i lawr bum pwynt i 42%, Llafur i fyny bump gyda 34%, y Democratiaid Rhyddfrydol i fyny un eto ar 9% ac UKIP i lawr dau ar 4%.

Mae’r pôl YouGov diweddaraf yn dangos cwymp ym mhoblogrwydd y Ceidwadwyr a gwelliant sylweddol i Lafur.

Effaith bom Manceinion

Mae’r arolwg yn awgrymu hefyd y gallai etholwyr ddychwelyd at y Torïaid yn sgil y bomio ym Manceinion, gyda phoblogrwydd personol y Prif Weinidog yn codi naw phwynt o gymharu ag arolwg arall cyn y gyflafan.

Nos Lun, cyn i’r bomio ddigwydd, roedd poblogrwydd personol Jeremy Corbyn wedi codi, gyda’r arweinydd tri phwynt o flaen Theresa May.

Mae hynny wedi newid erbyn hyn, gyda phoblogrwydd Theresa May ar y blaen ar +1 pwynt a Jeremy Corbyn ar -16 pwynt.