Llun Plaid Cymru
Wrth i’r ymgyrchu wedi’r ymosodiad ym Manceinion ail-ddechrau, mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi lleoedd am ddim mewn meithrinfeydd i bob plentyn tair oed yng Nghymru.
Trefnodd arweinydd y blaid, Leanne Wood, i fynd i feithrinfa yn Llanelli i gyhoeddi’r mesur, sy’n rhan o gynllun tri phwynt Plaid Cymru i daclo tlodi plant.
Yn ogystal â lleoedd meithrinfeydd am ddim, mae Plaid Cymru’n addo ehangu’r ddarpariaeth addysg cyn ysgol i bob plentyn dwy oed.
Mae Plaid Cymru hefyd yn bwriadu creu cwmni ynni newydd – Ynni Cymru – i dorri biliau i deuluoedd ac i addasu cartrefi i’w gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni.
Materion i’r Cynulliad yw’r rhain, ond ar lefel San Steffan, mae’r blaid hefyd yn addo dileu’r “dreth ystafell wely” ar bobol sy’n derbyn budd-dal tai, sydd ag ystafelloedd sbâr yn eu tŷ.
200,000 o blant mewn tlodi
Yn ôl Leanne Wood, mae’r ffaith fod 200,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, a 90,000 ohonyn nhw mewn tlodi difrifol, yn “ddamniol” o ran record y Blaid Lafur.
“Dylai bob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i lwyddo, ac mae gofal plant o ansawdd da yn rhan hollbwysig o hynny,” bydd disgwyl iddi ddweud.
“Mae cynllun tlodi plant Plaid Cymru yn golygu darparu lleoedd llawn amser am ddim mewn meithrinfeydd i bob plentyn tair oed a 12 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i blant dwy oed.
- Wrth ail-ddechrau ei ymgyrch yntau a’r Blaid Lafur, fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mai democratiaeth oedd y ffordd orau i anfon neges gref i frawychwyr.