Mae arweinydd UKIP yn dweud ei bod hi’n bwysicach nag erioed fod pobol yn cefnogi ei blaid yn yr etholiad cyffredinol ar Fehefin 8 – er bod y polau piniwn yn awgrymu chwalfa go iawn ymhen pythefnos.

Fe fydd y blaid yn lansio ei maniffesto yn San Steffan heddiw, toc cyn i funud o dawelwch er cof am ddioddefwyr yr ymosodiad brawychol ym Mancheinion ddechrau’r wythnos.

Mae Paul Nuttall, arweinydd UKIP, yn dweud mai’r ffordd orau i ymladd brawychiaeth ydi trwy ymarfer democratiaeth a chario ymlaen i ymgyrchu.

Ac ar raglen Today ar Radio 4 heddiw, pan gafodd ei holi am le UKIP yn y byd gwleidyddol yng ngwledydd Prydain, roedd yn gwrthod y syniad mai grwp pwyso yn unig ydi’r blaid bellach.

“Roedd y refferendwm (ar adael yr Undeb Ewropeaidd) yn grêt,” meddai Paul Nuttall. “Rydan ni wedi ennill y rhyfel. Nawr, mae’n rhaid i ni fynd yn ein blaenau i ennill yr heddwch hefyd.

“Pan fydd Theresa May yn mynd i Ewrop i drafod, dw i’n meddwl y bydd hi’n bargeinio gormod. Dw i’n meddwl y bydd pysgodfeydd yn mynd, dw i’n gofidio y bydd dêl hefyd ynglyn â rhyddid pobol i deithio rhwng gwledydd, a dw i’n meddwl y byddwn ni hefyd yn diweddu i fyny’n talu rhyw fath o fil am yr ysgariad.

“Nid dyna be’ oedd pobol gwledydd Prydain wedi pleidleisio drostyn nhw ar Fehefin 23 y llynedd,” meddai Paul Nuttall wedyn, “a dyna pam fod angen i UKIP aros ar y cae er mwyn gwarchod Prydain yn ystod proses Brexit.”