Theresa May Llun; Hannah McKay/PA Wire
Mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi bod yn siarad yn Downing Street am yr “ymosodiad brawychol mileinig” yn Arena Manceinion neithiwr, pan gafodd 22 o bobol eu lladd a 59 eu hanafu.

Roedd nifer o blant a phobol ifanc ymhlith y meirw a dywedodd Theresa May bod yr ymosodiad “wedi’i dargedu’n fwriadol at bobol ifanc” a’u bod wedi dewis y lleoliad er mwyn “lladd cymaint â phosib.”

Dywedodd y Prif Weinidog bod y gwasanaethau diogelwch yn adnabod yr hunan-fomiwr, Salman Abedi, a bod ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod a oedd yn gweithio ar ei ben ei hun neu’n rhan o ryngrwyd.

Yn y cyfamser, mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio yn ne’r ddinas mewn cysylltiad a’r ymosodiad bom, meddai Heddlu Manceinion. Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn honni mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Dywed Heddlu Manceinion bod yr uned difa bomiau hefyd wedi cynnal ffrwydrad o dan reolaeth mewn eiddo yn Fallowfield fel rhan o’u hymchwiliad i’r ymosodiad.

Mae Theresa May a’r Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd yn ymweld â Manceinion y prynhawn yma er mwyn cwrdd â phenaethiaid yr heddlu.

“Dewrder”

Digwyddodd y ffrwydrad tua 10.30yh nos Lun yn Arena Manceinion lle’r oedd plant a phobol ifanc yn y dorf yn gwylio cyngerdd gan y gantores bop Americanaidd, Ariana Grande.

Mae 12 o’r plant sy’n cael triniaeth mewn ysbytai ym Manceinion o dan 16 oed. Ymhlith y rhai gafodd eu lladd roedd merch 8 oed, Saffie Roussos, a myfyrwraig 18 oed, Georgina Callander.

Wrth siarad y tu allan i Rif 10, ar ôl cadeirio cyfarfod o bwyllgor argyfwng Cobra y bore yma, bu Theresa May yn canmol dewrder y gwasanaethau brys a’r rhai a oedd wedi rhuthro i helpu eraill gan ddangos “ysbryd Prydain… sydd, wedi blynyddoedd o wrthdaro a brawychiaeth, erioed wedi torri ac ni fydd byth yn cael ei dorri.”

Ac fe addawodd “na fydd y brawychwyr fyth yn ennill”.

Gwylnos

Mae Maer Manceinion, Andy Burnham, wedi cyhoeddi y bydd gwylnos yn cael ei chynnal yn Sgwâr Albert yn y ddinas am 6yh heno i gofio’r rhai fu farw yn yr ymosodiad a’r rhai sydd wedi’u hanafu.

Fe fydd gwylnos hefyd yn cael ei chynnal yn y Senedd ym Mae Caerdydd ac ar Sgwâr y Castell yn Abertawe ddydd Mawrth.

Plismyn ychwanegol

Mae Comisiynydd Heddlu’r Metropolitan Cressida Dick wedi dweud y bydd plismyn ychwanegol, gan gynnwys swyddogion arfog, ar ddyletswydd mewn nifer o ddinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig mewn ymateb i’r ymosodiad.