Theresa May (Llun o'i chyfri Twitter)
Mae’r ymgyrchu yn yr Etholiad Cyffredinol wedi’i ohirio heddiw yn dilyn y ffrwydrad ym Manceinion pan gafodd 22 o bobl eu lladd.

Dywedodd yr arweinydd Llafur Jeremy Corbyn ei fod wedi siarad â’r Prif Weinidog Theresa May a’u bod i gyd wedi cytuno y byddai’r ymgyrchu’n cael ei ohirio am y tro.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Tim  Farron wedi canslo ymweliad a Gibraltar ac mae’r SNP yn yr Alban wedi gohirio lansio eu maniffesto. Mae disgwyl i Brif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon hefyd gadeirio cyfarfod o’u pwyllgor brys nhw.

Mae’r ymgyrchu gan y pleidiau yng Nghymru hefyd wedi’i ohirio am y tro.

Fe fydd Theresa May yn cadeirio cyfarfod o’r pwyllgor argyfwng Cobra bore ma.

Mae’r digwyddiad ym Manceinion yn cael ei drin  fel ymosodiad brawychol.

Roedd plant ymhlith y rhai gafodd eu lladd a chafodd 59 o bobl eu hanafu yn y digwyddiad yn Arena Manceinion ar ddiwedd cyngerdd gan y gantores Americanaidd Ariana Grande.

Wrth drydar ei hymateb ar ôl y digwyddiad dywedodd Ariana Grande: “Does dim geiriau gen i.”