Jo Cox (Llun: Yui Mok/PA)
Fe fydd gwleidyddion yn rhoi’r gorau i ymgyrchu am gyfnod heddiw i gofio Jo Cox, wrth iddyn nhw ddathlu’r hyn sydd ganddyn nhw’n gyffredin.

Yn ei haraith gyntaf fel Aelod Seneddol, dywedodd Jox Cox: “Ry’n ni’n llawer mwy unedig ac mae gennym ni lawer mwy yn gyffredin na’r hyn sy’n ein rhannu ni.”

Dyna fydd neges y gwleidyddion heddiw wrth iddyn nhw gofio am y gwleidydd a gafodd ei llofruddio fis Mehefin y llynedd.

I nodi blwyddyn ers ei marwolaeth, mae Brendan Cox wedi trefnu’r Great Get Together o Fehefin 16-18, lle bydd miloedd o bobol yn mynd i amryw ddigwyddiadau cymunedol ledled gwledydd Prydain.

‘Neges bwerus’

Mae Brendan Cox, ei gweddw, wedi croesawu’r deyrnged, gan ddweud y byddai’n “anfon neges bwerus” o undod.

Yn etholaeth Jo Cox yn Batley and Spen yng Ngorllewin Swydd Efrog, fe fydd yr ymgeiswyr yn dod ynghyd mewn digwyddiad i ffermwyr sy’n codi arian ar gyfer uned arbennig i fabanod.

Fe fydd arweinydd Llafur yn ymweld â chanolfan celfyddydau yn Lerpwl, Tim Farron yn mynd am bicnic cymunedol yn ei etholaeth yn Kendal ac arweinydd y Blaid Werdd, Caroline Lucas yn ymweld â phrosiect eglwysig yn Brighton.