Mae gwyddonydd a gafodd ei anafu pan ffrwydrodd bom yn Afghanistan wedi derbyn iawndal gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Roedd Lee Peters, 51, yn gweithio mewn labordy yn Kandahar pan ffrwydrodd y ddyfais ar ôl i arbenigwyr ddweud ei fod yn ddiogel.

Cefndir

Roedd y gwyddonydd yn gofidio y byddai’n gwaedu i farwolaeth yn dilyn y digwyddiad yn 2011, wrth iddo asesu pecyn amheus yn fforensig.

Fe gafodd e anafiadau parhaol i’w lygaid ac fe gollodd e dri bys ar ei law chwith.

Dywedodd fod y ffrwydrad “fel bod mewn ffilm – roedd popeth yn symud yn araf”.

Cafodd ei achub gan gydweithiwr oedd wedi ei glywed yn sgrechian, ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty lle bu’n derbyn triniaeth am 13 awr mewn ymgais i achub ei law.

Fe ddioddefodd gryn drawma ar ôl y digwyddiad.

‘Esgeulustod syfrdanol’

Mae ei gyfreithwraig wedi beirniadu’r Weinyddiaeth Amddiffyn am “esgeulustod syfrdanol”.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwrthod gwneud sylw am y digwyddiad.