Nicola Sturgeon (Llun: Andrew Cowan/Llywodraeth yr Alban/PA Wire)
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon yn dal yn awyddus i gynnal ail refferendwm annibyniaeth rhwng diwedd 2018 a dechrau 2019, meddai.

Mae ymgyrch etholiadol y blaid yn canolbwyntio ar ddweud wrth bleidleiswyr fod modd iddyn nhw roi mandad i Nicola Sturgeon er mwyn dylanwadu ar drafodaethau Brexit, ar ôl i fwyafrif yr Alban bleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Cyhoeddodd Nicola Sturgeon gynlluniau i gynnal ail refferendwm annibyniaeth ar ôl i Lywodraeth Prydain wrthod rhoi’r hawl i’r Alban drafod amodau gadael yr Undeb Ewropeaidd, oedd yn cynnwys aros yn rhan o’r farchnad sengl.

Ymgyrch etholiadol

Yn ystod yr ymgyrchu diweddar, mae gwrthwynebwyr Nicola Sturgeon wedi ei chyhuddo o droi ei chefn ar gynlluniau i gynnal ail refferendwm.

Ond dywedodd hi: “Dydy fy safbwynt ddim wedi newid ac mae Senedd yr Alban wedi cefnogi’r safbwynt hwnnw.

“Ond mae yma flaenoriaeth yn yr etholiad hwn a chyfle yn yr etholiad hwn i gryfhau llaw’r Alban yn nhrafodaethau Brexit, oherwydd dydy Theresa May ddim yn unig yn mynd ar ôl Brexit, ond mae hi’n mynd ar ôl dull eithafol o Brexit a fydd yn rhoi miloedd o swyddi Albanaidd yn y fantol.

“Pan fyddwn ni’n glir ynghylch y cytundeb, a dw i’n gweithio ar yr amserlen y mae Theresa May yn cyfeirio ati yma, yna fe ddylai’r Alban gael dewis.”