Arweinydd Ceidwadwyr yr Alban Ruth Davidson (Llun o'i chyfrif Twitter)
Mae arolwg sydd newydd ei gyhoeddi’n dangos bod 15% o Albanwyr yn barod i bleidleisio’n dactegol yn yr etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8.
Mae barn Albanwyr wedi’i hollti rhwng cadw’r SNP allan ac atal y Ceidwadwyr rhag cipio grym, meddai YouGov.
Mae’r ddwy blaid wedi apelio ar i gefnogwyr Llafur eu cefnogi nhw.
Cafodd 1,032 o bobol eu holi rhwng Mai 16-18 a fydden nhw’n barod i bleidleisio dros blaid nad ydyn nhw’n ei chefnogi er mwyn cadw plaid arall allan.
Dywedodd 69% eu bod nhw’n pleidleisio dros eu hoff blaid, tra bod 15% wedi dweud y bydden nhw’n pleidleisio dros blaid er mwyn cadw un arall allan.
Roedd 16% yn ansicr sut fydden nhw’n pleidleisio ar y diwrnod.
O blith yr 15%, dywedodd 46% ohonyn nhw eu bod nhw am geisio atal yr SNP rhag cadw eu grym, wrth i 39% ddweud eu bod nhw am gadw’r Ceidwadwyr allan.
Gwrth-annibyniaeth
Mae’r Ceidwadwyr wedi ategu eu barn eu bod nhw’n gwrthwynebu rhoi annibyniaeth i’r Alban, ac mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn mynnu bod Jeremy Corbyn yn “rhy wan” i fod yn Brif Weinidog.
Mae Ruth Davidson, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, wedi apelio ar Albanwyr i “atal Nicola Sturgeon rhag ceisio rhwygo ein gwlad”.
Mae’r pôl piniwn yn dangos bod pleidleiswyr Llafur yn ffafrio’r SNP ar draul y Ceidwadwyr, gyda dau draean yn mynegi eu hatgasedd at y Ceidwadwyr.