Bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn addo mynd i’r afael â mewnfudo a chostau gofal cymdeithasol yn Lloegr wrth lansio ei maniffesto heddiw.

Dan gynlluniau’r maniffesto byddai cwmnïau yn gorfod talu mwy am gyflogi mewnfudwyr ac mi fyddai’n rhaid i fewnfudwyr dalu mwy er mwyn medru defnyddio gwasanaethau iechyd.

Yn bresennol mae cyflogwyr sydd yn cyflogi gweithwyr o dramor mewn meysydd sgil uchel yn gorfod talu £1,000 am bob gweithiwr pob blwyddyn.

Ond mae’n debyg mi fyddai cynlluniau maniffesto’r Ceidwadwyr yn cynyddu’r swm yma i £2,000 erbyn 2022 er mwyn sicrhau bod “mwy o arian yn cael ei fuddsoddi  yng ngweithwyr y Deyrnas Unedig.”

Byddai’r Ceidwadwyr hefyd yn codi’r tâl ychwanegol mae tramorwyr yn gorfod talu er mwyn medru defnyddio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol – £600 i weithwyr o dramor a £450 i fyfyrwyr rhyngwladol.

Lloegr

Yn Lloegr mi fyddai’r Ceidwadwyr yn buddsoddi £4 biliwn mewn ysgolion trwy waredu prydiau bwyd ysgol am ddim i fabanod.

Mi fydd y maniffesto hefyd yn addo amddiffyn pobol yn Lloegr sydd yn ennill £100,000 neu’n llai rhag costau gofal cymdeithasol. Fydd hyn yn golygu na fydd yn rhaid i bobol werthu eu tai er mwyn talu am ofal preswyl a gofal cartref.