Tim Farron, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol
Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn addo cynnig “dyfodol mwy disglair” i bobol ifanc wrth iddyn nhw lansio eu maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol heddiw.

Ymysg addewidion sydd yn targedu pobol ifanc fydd cynlluniau i gyflwyno cardiau bws i bobol 16-21 blwydd oed, ailgyflwyno budd-daliadau tai i bobol ifanc, a gostwng yr oedran pleidleisio i 16.

Mae’r blaid hefyd wedi addo gwario £7bn yn fwy ar addysg dros bum mlynedd, dyblu’r nifer o fusnesau sydd yn cynnig prentisiaethau a chynnig prydau cinio am ddim i bob disgybl ysgol gynradd.

Un o brif bolisïau maniffesto’r blaid yw cynllun fyddai’n galluogi pobol sydd yn rhentu eu tai, i dalu eu  taliadau misol fel taliadau morgais gan alluogi rhentwyr i fod yn berchnogion ar eu tai o fewn 300 mlynedd.

“Dyfodol mwy disglair”

“Does dim rhaid i chi dderbyn fersiwn eithafol Theresa May a Nigel Farage o Brexit. Fersiwn fydd yn difetha’ch dyfodol, eich ysgolion ac eich ysbytai,” meddai Arweinydd y Democratiaid, Tim Farron.

“Yn ystod y frwydr fwyaf dros ddyfodol ein gwlad mewn canrif, mae Llafur Jeremy Corbyn wedi cefnu arnoch chi trwy bleidleisio gyda Theresa May ar Brexit, nid yn ei herbyn.

“Rydyn ni eisiau cynnig dyfodol mwy disglair i’n plant. Dyfodol tecach, lle mae pobol yn gyfeillgar â’i gilydd… lle mae ysgolion ac ysbytai yn rhai da, lle mae’r amgylchedd yn lân a’r economi’n arloesol.

“Dydyn ni ddim eisiau Prydain oeraidd a chrintachlyd Theresa May.”