Wrth lansio eu maniffesto heddiw, mae’r Blaid Lafur wedi datgelu cynlluniau gwario gwerth £48.6 biliwn a fydd yn cael eu hariannu trwy gynyddu trethi.

Dywedodd arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn, bod y maniffesto, sydd yn cynnwys cynlluniau i wario miliynau ar ysgolion, ehangu gofal i blant ac i waredu toriadau budd-daliadau, yn “rhaglen o obaith.”

Mae’r maniffesto yn cynnwys addewidion i ail wladoli 10 cwmni dŵr Lloegr, i waredu ffioedd dysgu prifysgolion, ac i osod uchafswm ar gyflogau dros £330,000.

Mae hefyd yn amlinellu cynllun i godi treth incwm gan 45 ceiniog i bobol sy’n ennill dros £80,000, ac i godi’r dreth gan 50 ceiniog i bobol sydd yn ennill dros £123,000.

“Eich maniffesto chi”

Wrth gyflwyno’r maniffesto dywedodd Jeremy Corbyn bod Llafur yn cynnig “maniffesto i bob cenhedlaeth” gan ychwanegu: “Rydym yn cynnig gobaith a chyfleoedd i bawb.”

“Beth bynnag yw’r oedran neu’r sefyllfa, mae pobol dan bwysau, mae pobol yn cael trafferth ymdopi,” meddai gan ychwanegu: “Mae ein maniffesto ni, ar eich cyfer chi.”

Mae’r maniffesto hefyd yn cynnwys:

  • Dim cynnydd mewn treth i bobol sydd yn ennill llai na £80,000
  • Ehangu a thrydanu’r rheilffyrdd ar hyd y wlad
  • Amddiffyn hawliau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd ym Mhrydain
  • Codi’r  isafswm cyflog i “o leiaf £10 yr awr erbyn 2020”
  • Gwahardd cytundebau dim oriau
  • Adeiladu o leiaf 100,000 tai cyngor a chymdeithas dai pob blwyddyn

 “Syniadau ffôl”

“Mae heddiw yn cadarnhau’r hyn yr ydym yn gwybod yn barod: nid yw syniadau ffôl Jeremy Corbyn yn gwneud synnwyr,” meddai Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, y Ceidwadwr David Gauke.

“Bydd pob teulu sydd yn gweithio yn y wlad yma yn talu am anrhefn Corbyn â threthi uwch. Mae’n glir bod y cynigion yn y maniffesto yma yn golygu mwy o wario a mwy o ddyled.”

Methu ar Brexit

Mae cyn-weinidog cabinet y Democratiaid Rhyddfrydol, Alistair Carmichael, wedi condemnio’r modd mae Llafur yn bwriadu ymdrin â Brexit.

“Mae’r blaid yn methu o ran sefyll i fyny dros ein haelodaeth o’r farchnad sengl ac yn gwrthod rhoi llais i’r cyhoedd dros ddêl Brexit.”