Jeremy Corbyn Llun: PA
Bydd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn datgelu cynllun “radical a chyfrifol” heddiw wrth iddo lansio maniffesto ei blaid.

Mae ’na awgrym bod y blaid yn paratoi i gynyddu trethi i bobl  sydd yn ennill dros £80,000 er mwyn helpu i dalu am wasanaethau cyhoeddus a chosbi cwmnïau sy’n talu cyflogau uchel.

Mae’r blaid yn bwriadu ymrwymo i ddarparu 30 awr o ofal plant am ddim i bob plentyn rhwng dau a phedwar – cynllun fydd yn costio £5 biliwn y flwyddyn.

 “Rhyddhau i’r wasg”

Daw cyhoeddiad y maniffesto wythnos wedi i gopi drafft, a oedd yn cynnwys cynlluniau i ail wladoli diwydiannau allweddol gan gynnwys y rheilffyrdd, gael ei rhyddhau i’r wasg.

Llafur yw’r brif blaid gyntaf i gyhoeddi eu maniffesto ac mae disgwyl i faniffesto Llafur Cymru gael ei gyhoeddi wythnos nesaf.

Ceidwadwyr a Democratiaid Rhyddfrydol

Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, David Gauke, wedi dweud bod cynlluniau Llafur yn “ffôl” ac wedi dweud “byddai’n rhaid cynyddu’r trethi yn ddramatig gan nad yw’r symiau yn gwneud synnwyr.”

Bydd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, yn lansio maniffesto busnes y blaid heddiw gan ddatgelu cynlluniau i gyflwyno lwfans o £100 yr wythnos i entrepreneuriaid.