Jeremy Corbyn Llun: PA
Toriadau’r llywodraeth oedd wedi galluogi’r ymosodiad seibr, wnaeth daro’r byd ddydd Gwener, i effeithio gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn Lloegr, yn ôl arweinydd y Blaid Lafur.

Wrth annerch cynhadledd y Coleg Nyrsio Brenhinol yn Lerpwl dywedodd Jeremy Corbyn y byddai’n buddsoddi £37 biliwn yn ychwanegol yn GIG Lloegr dros y pum mlynedd nesaf.

O’r swm yma mae’r blaid Lafur yn bwriadu buddsoddi £10 biliwn ar adnewyddu adeiladau a moderneiddio sustemau technoleg gwybodaeth y Gwasanaeth Iechyd.

Mae’r blaid yn gobeithio bydd y buddsoddiadau yma yn cwtogi rhestrau aros o filiwn o bobol erbyn 2020 ac yn galluogi adrannau damweiniau ac achosion brys i sicrhau bod amseroedd aros yn llai na phedair awr.

Wrth drafod yr ymosodiadau seibr ar gyfrifiaduron GIG Lloegr dywedodd Jeremy Corbyn: “Mae’n rhaid i ni fuddsoddi yn y GIG er mwyn amddiffyn ein sustemau rhag troseddwyr.”

Addewidion etholiadol

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, wedi addo “ehangu hawliau gweithwyr” os ddaw’r Ceidwadwyr i rym fis nesaf, trwy gyflwyno cynlluniau sy’n cynnwys diogelu pensiynau a chodi’r cyflog byw.

Yn ôl Arweinydd plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, mi fyddai ei blaid ef yn cael gwared ar y cap o 1% ar godiadau cyflog i staff ysgolion ac ysbytai yn y sector gyhoeddus.