John McDonnell (Llun: PA)
Mae’r Blaid Lafur wedi addo cyflwyno ‘Treth Robin Hood’ pe baen nhw’n ennill yr etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8.

Y gobaith yw y gallai’r fath dreth godi hyd at £26 biliwn yn ystod y cyfnod seneddol nesaf.

Beirniadaeth

Ond fydd y polisi ddim yn boblogaidd ymhlith gweithwyr  y Ddinas gan y bydd yn bwrw’r sector ariannol ar gyfnod ansicr yn sgil y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Ceidwadwyr wedi wfftio’r polisi fel un “gwallgof”, gan rybuddio y bydd yn arwain at golli swyddi ac arafu twf ariannol.

Amlinellodd y Blaid Lafur y polisi ar ôl cyfnod o bwysau i egluro sut fyddan nhw’n talu am raglen uchelgeisiol o ail-wladoli ac ehangu gwasanaethau cyhoeddus, oedd wedi’i hamlinellu yn y maniffesto a gafodd ei ryddhau’n gyfrinachol i’r wasg.

Ymhlith y camau y byddai’r Blaid Lafur yn eu cymryd mae adolygu’r dreth stamp 322 oed, gan arbed £4.7 biliwn yn 2016-17, a £5.6 biliwn erbyn 2021-22.

Maen nhw hefyd yn dweud y byddan nhw’n atal pobol rhag osgoi talu trethi.

‘Tegwch’

Yn ôl Canghellor yr wrthblaid, John McDonnell, diben y polisïau yw sicrhau “tegwch” yn wyneb gweithredoedd y banciau adeg y dirwasgiad yn 2008.

“Mae’r Ceidwadwyr yn parhau i orfodi pobol i dalu am argyfwng wnaethon nhw ddim ei achosi, drwy’r toriadau gwariant gwaethaf ers cenedlaethau.

“Y cyfan ry’n ni’n gofyn amdano yw tegwch yn ein system drethi.”

Mae llefarydd ar ran Ymgyrch Treth Robin Hood wedi croesawu’r addewid.