Ysgrifennydd Cartref San Steffan, Amber Rudd (Llun: Stefan Rousseau/PA Wire)
Mae pwyllgor diogelwch Cobra yn cyfarfod y prynhawn yma i drafod yr ymosodiad seibr sydd wedi effeithio ar y Gwasanaeth Iechyd.
Mae’r ymosodiad wedi effeithio ar 99 o wledydd ar draws y byd.
Yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd fydd yn cadeirio’r cyfarfod.
Pryderon
Mae pryderon bod rhaglen oedd yn gwarchod cyfrifiaduron rhag firws o’r fath wedi dirwyn i ben ddwy flynedd yn ôl.
Mae 45 o awdurdodau iechyd lleol wedi cael eu heffeithio, gyda rhai adrannau’n gorfod cau neu ohirio llawdriniaethau.
Mae ymchwiliad ar y gweill, a dywedodd Amber Rudd fod gwersi i’w dysgu o’r helynt.
Dywedodd hi wrth Sky News: “Mae’n destun siom eu bod nhw wedi bod yn rhedeg Windows XP – dw i’n gwybod bod yr Ysgrifennydd Iechyd wedi rhoi gorchymyn iddyn nhw beidio, ac mae’r rhan fwyaf wedi symud i ffwrdd oddi wrtho.”
Ymateb chwyrn
Mae llefarydd iechyd y Blaid Lafur, Jonathan Ashworth wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt i fynegi ei bryder bod negeseuon wedi cael eu hanwybyddu droeon.
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn hefyd wedi beirniadu ymateb Llywodraeth Prydain.