Tomos Dafydd
Mae’r ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer Môn wedi dweud bod angen llais newydd i gynrychioli pobol yr ynys yn San Steffan.

Yn ôl Tomos Dafydd, mae Plaid Cymru a’r Blaid Lafur wedi cymryd pobol yr ynys yn ganiataol dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’n dweud mai “nid ras dau geffyl” fydd yr ornest i gipio’r sedd a’i fod yn “ymgeisydd credadwy”.

Yn Etholiad Cyffredinol 2015, fe enillodd Albert Owen Ynys Môn o drwch blewyn o 229 o bleidleisiau, gyda Phlaid Cymru’n dod yn ail

Ac mae’r polau piniwn diweddaraf yn awgrymu y gallai fod yn agos iawn rhwng Llafur, y Blaid a’r Ceidwadwyr y tro hwn.

Cyn-Aelod Seneddol yr ynys, Ieuan Wyn Jones, sy’n sefyll dros Blaid Cymru.

Cefnogi Wylfa Newydd i’r carn

Yn wreiddiol o Aberystwyth a bellach yn gweithio yn Llundain i gwmni cyfathrebu, bu Tomos Dafydd yn uwch was sifil yn Swyddfa Cymru.

Mae’n dweud ei fod wedi gallu “gweithio dros ogledd Cymru” yn y swydd honno, yn enwedig drwy gefnogi datblygiad Wylfa Newydd – pwnc a fydd yn cymryd lle canolog yn ei ymgyrch.

“Hyd y gwelaf i, fi yw’r unig ymgeisydd yn yr etholiad yn Ynys Môn sydd yn gwbl ddiamwys ynghylch fy nghefnogaeth i’r diwydiant niwclear,” meddai wrth golwg360.

“Pe bai Jeremy Corbyn a’r Blaid Lafur yn cael eu ffordd, byddai datblygiad Wylfa yn cael ei ddryllio a byddwn yn colli’r swyddi a’r buddsoddiad yn yr ynys.

“Ac mi fydda’ i’n atgoffa pobol dros yr wythnosau nesaf ynglŷn â safbwynt Plaid Cymru. Maen nhw’n hoffi honni eu bod nhw o blaid niwclear, ond polisi swyddogol y blaid yw gwrthwynebu buddsoddiad mewn ynni niwclear.”

Yn ôl Tomos Dafydd, bydd yn dwyn Horizon, y cwmni sydd y tu ôl i’r safle niwclear newydd, i gyfrif, gan sicrhau bod swyddi’n mynd i bobol leol a bod dyfodol yr iaith Gymraeg yn cael blaenoriaeth.

“Mae’n bwysig bod y cwmnïau mawr yma yn ymgynghori ac yn trafod ac yn esbonio eu cynlluniau i’r gymuned, sydd yn naturiol â phryderon digon dilys.

“Dw i’n awyddus i weld swyddi yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer y gymuned leol, mae’n sgandal bod cymaint o’n pobol ifanc ni yn gorfod mynd i Gaerdydd neu i Lundain i fwrw prentisiaeth ac i ennill eu bara menyn.”

Mae’n dweud ei fod ei fod yn “ddatganolwr pybyr” a’i fod yn awyddus i weld pwerau o’r Undeb Ewropeaidd ar feysydd datganoledig yn cael eu trosglwyddo’ yn syth i Gymru, ac nid eu canoli yn Llundain.

Plaid yn cymryd y Cymry Cymraeg yn “ganiataol”

Wrth siarad am yr ymgyrch leol, dywedodd Tomos Dafydd fod ganddo “barch mawr at Ieuan Wyn ac Albert Owen” ond bod pobol wedi blino arnyn nhw erbyn hyn a bod Plaid Cymru’n cymryd y “bleidlais Gymraeg” yn ganiataol.

“Dw i’n credu bod etholwyr Ynys Môn erbyn heddiw wedi blino braidd ar y ddwy blaid – y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, sydd wrth gwrs wedi dominyddu gwleidyddiaeth yr Ynys ers cyhyd.

“Dw i wedi blino ar wleidyddion sydd o bosib yn cymryd y rhan yma o ogledd Cymru, yn sicr yn achos Plaid Cymru, yn cymryd y bleidlais Gymraeg yn ganiataol.

“Dw i’n gwerthfawrogi bod yna bobol y byddai erioed wedi meiddio rhoi eu pleidlais i’r Torïaid yn y gorffennol.

“Y cyhuddiad wrth gwrs oedd mai plaid Saesneg oedd hi, ac efallai yn y gorffennol, roedden ni’n euog o ddewis yr ymgeiswyr anghywir, oedd â fawr o ddeall am Gymru a’r iaith Gymraeg.

“Dw i’n ymgeisydd gwahanol a dw i’n gobeithio y bydd etholwyr yn cydnabod hynny.”