Tim Farron
Mae disgwyl i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ddod i Gaerdydd fore Iau i lansio ymgyrch etholiadol y blaid yng Nghymru.

Bydd Tim Farron yn ymuno ag arweinydd y Rhyddfrydwyr yng Nghymru, Mark Williams, ynghyd â thri ymgeisydd y blaid yn yr etholiad cyffredinol.

Wrth lansio’r ymgyrch, bydd Mark Williams yn galw ar bobol Cymru i “wrthod cynllun Theresa May i lusgo Cymru o’r Farchnad Sengl a bygwth ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus”.

Bydd yn dweud hefyd na all Gymru wynebu pum mlynedd o’r Torïaid mewn grym a bod angen i’r Democratiaid Rhyddfrydol fod yn wrthblaid yn San Steffan.

Ymgeiswyr

Bydd Eluned Parrott, sy’n sefyll yng Nghanol Caerdydd, James Gibson-Watt, sy’n sefyll ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed a Jane Dodds, sy’n sefyll yn Sir Drefaldwyn, yno hefyd.