Paul Farrelly AS
Mae un o ymgeiswyr seneddol Llafur wedi wfftio gobeithion Jeremy Corbyn o ddod yn Brif Weinidog nesaf gwledydd Prydain.

Mae Paul Farrelly o Newcastle-under-Lyme yn Swydd Stafford yn dweud y byddai pobol yn “chwerthin am ei ben” pe bai e’n awgrymu y gallai arweinydd y Blaid Lafur ddod yn Brif Weinidog ar Fehefin 8.

Yn hytrach, dywedodd ei fod yn sefyll er mwyn “dwyn Theresa May i gyfrif” pe bai’r Ceidwadwyr yn ennill mwyafrif helaeth fis nesaf.

“Dydi Jeremy ddim yn boblogaidd ymhlith cefnogwyr craidd Llafur sydd wastad wedi bod yn y tir canol ac sy’n chwilio am bolisïau ymarferol,” meddai wrth raglen World at One, Radio 4.

“Mater yw hyn o beidio â rhoi siec gwag i Theresa May, a senedd ufudd gyda mwyafrif helaeth, fel y gall hi fod yn atebol go iawn.”

Yn ôl ffynhonnell yn y Blaid Lafur, mae ymgeiswyr sy’n ceisio amddiffyn seddi â mwyafrif o lai na 5,000 yn poeni am eu gobeithion – mwyafrif o 650 sydd gan Paul Farrelly.