Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cadarnhau na fydd yr un Aelod Seneddol Ceidwadol yn wynebu cyhuddiadau yn dilyn ymchwiliad i’w treuliau.

Roedd yr ymchwiliad yn ymwneud â threuliau yn ystod ymgyrch Etholiad Cyffredinol 2015.

Mae un achos – Craig Mackinlay yn Ne Thanet – yn cael ei ystyried o hyd.

Roedd erlynwyr wedi bod yn ystyried achosion oedd yn cael eu hymchwilio gan 14 o heddluoedd, ond doedd dim digon o dystiolaeth yn y pen draw i erlyn unigolion.