Jeremy Corbyn - wedi awgrymu torri ffïoedd
Mae ysgrifennydd Addysg yr wrthblaid, Angela Rayner, wedi gwrthod gwadu y bydd y blaid Lafur yn cael gwared â ffïoedd dysgu i fyfywrwyr prifysgol.

Fe wrthododd roi mwy o fanylion am bolisi Llafur tra’n cael ei holi ar raglen Today, Radio 4, fore Mercher.

Pan ddaeth y cwestiwn am ffïoedd dysgu, fe ddywedodd: “Gwyliwch y gofod hwn”.

Mae arweinydd Llafyr, Jeremy Corbyn, wedi awgrymu cyn hyn y byddai o blaid cael gwared â ffïoedd, yn hytrach na thalu amdanyn nhw trwy godi trethi.