Jeremy Corbyn “am aros yn arweinydd Llafur”

Diweddarwyd  


Jeremy Corbyn Llun: PA
Mae Jeremy Corbyn wedi awgrymu y bydd yn parhau’n arweinydd y Blaid Lafur hyd yn oed os na fydd yn dod i rym yn yr Etholiad Cyffredinol.

Cafodd Jeremy Corbyn ei ddyfynnu ar wefan BuzzFeed News yn dweud y byddai’n “parhau” yn ei swydd beth bynnag fydd y canlyniad ar 8 Mehefin.

“Cefais fy ethol yn arweinydd y blaid hon ac fe fyddaf yn aros yn arweinydd y blaid,” meddai wrth y wefan.

“Trawsnewid”

Daw sylwadau Jeremy Corbyn wrth iddo lansio ei ymgyrch etholiadol gydag addewid  i “drawsnewid Prydain.”

Dywedodd y byddai’n rhoi swyddi’n gyntaf yn sgil Brexit a sicrhau dyfodol diwydiannau “hanfodol”, a chymdeithas  “decach”. Mae hefyd wedi dweud y bydd yn mynd i’r afael a’r rhai sy’n osgoi talu trethi a bancwyr “barus”.

“Nid yw’r etholiad yn ymwneud a Brexit ei hun. Mae’r mater yna wedi’i setlo. Y cwestiwn nawr yw sut fath o Brexit ry’n ni eisiau – a sut fath o wlad ydym am i Brydain fod yn dilyn Brexit?,” meddai.

Pwysau

Gyda’r arolygon barn yn awgrymu y bydd y Ceidwadwyr yn cael buddugoliaeth sylweddol yn yr etholiad, mae nifer o Aelodau Seneddol Llafur wedi rhoi’r bai ar Jeremy Corbyn am y dirywiad ym mhoblogrwydd y blaid.

Ond mae’n debyg bod Jeremy Corbyn dan bwysau gan rai ar yr asgell chwith i barhau’n arweinydd fel nad ydyn nhw’n colli rheolaeth o’r blaid.

Fe allai arwain at gystadleuaeth arall am arweinyddiaeth  Llafur.

“Nid Corbyn yw unig broblem Llafur”

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Tim Farron mai’r Blaid Lafur ddylai benderfynu a yw’n “realistig” i Jeremy Corbyn barhau yn ei swydd ar ôl yr etholiad petai’n methu dod i rym.

“Efallai bod nifer ohonom yn euog o feddwl mai unig broblem Llafur yw Jeremy Corbyn.

“Peidiwch ag anghofio bod Jeremy Corbyn wedi dod yn arweinydd Llafur oherwydd yr hyn ddigwyddodd o fewn y Blaid Lafur, ac nid y ffordd arall,” meddai Tim Farron wrth y Press Association.

Fe gyhuddodd Jeremy Corbyn o dderbyn canlyniad Brexit a “neidio oddi ar y dibyn” gyda’r Torïaid.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd